ADNODDAU AR GYFER ATHRAWON
Mae’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau wedi cael eu cynllunio i ddysgu plant am Gyfrifiad 2021, yn yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu o bell. Byddan nhw’n helpu plant yn Lloegr i gyrchu’r cwricwlwm ym meysydd allweddol mathemateg, Saesneg, hanes, daearyddiaeth, celf a dylunio a chyfrifiadureg. Ac yng Nghymru, yn helpu cyrchu meysydd allweddol mathemateg a rhifedd; iaith, llythrennedd a chyfathrebu; dyniaethau a’r celfyddydau mynegiannol. Mae’r gweithgareddau’n berthnasol i gwricwlwm Lloegr drwy gydol y Blynyddoedd Cynnar, CA1 a CA2, a chwricwlwm Cymru o’r dosbarth meithrin a’r dosbarth derbyn hyd at CA2. Mae adnoddau arbennig ar gael ar gyfer blwyddyn 6 hefyd.