
“Buodd plant blwyddyn 5 a 6 yn brysur yn dysgu am y cyfrifiad. Profodd yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol!”
Caryl Griffiths,
Athrawes Blwyddyn 5,
Ysgol Comins Coch, Ceredigion (Ymarfer y Cyfrifiad 2019)
View resources
Beth yw Gadewch i ni Gyfrif!?
Mae SYG, ynghyd â’n canolfan adnoddau addysg, iChild, wedi datblygu Gadewch i ni Gyfrif! er mwyn cefnogi Cyfrifiad 2021. Rhaglen adnoddau addysg gyffrous am ddim yw Gadewch i ni Gyfrif! sy’n addysgu plant am y cyfrifiad.
Mae rhaglen Gadewch i ni Gyfrif! yn cynnwys 14 o adnoddau trawsgwricwlaidd i chi ddewis ohonynt, gan gwmpasu meysydd allweddol yng nghwricwlwm Cymru a Lloegr. Mae rhaglen Gadewch i ni Gyfrif! wedi cael ei hachredu gan MEI, NATE a’r Gymdeithas Ddaearyddol.
Bydd yr adnoddau hyblyg a fydd yn arbed amser i chi yn cefnogi eich ysgol drwy COVID-19, er mwyn ailennyn diddordeb plant a theuluoedd mewn dysgu a dathlu’r gymuned leol, fel rhan o’ch cwricwlwm adfer. Maent wedi’u cynllunio i addysgu plant yn yr ystafell ddosbarth a gartref. Byddwch yn cael mynediad at wersi fideo arfer gorau gan MEI y gellir eu defnyddio i ddysgu o bell hefyd.
Mae’r adnoddau hyd yn oed yn cynnig hyfforddiant datblygu proffesiynol i’ch athrawon, gyda sesiwn arbennig am gynnydd mewn ystadegau ar draws y blynyddoedd cynradd.
Gall y rhaglen addysg hon sy’n hawdd ei defnyddio helpu i wella sgiliau mathemateg ac ysgrifennu, gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021, digwyddiad pwysig mewn bywyd go iawn, fel sbardun.

90.9%
Dywedodd 90.9% o athrawon fod Gadewch i ni Gyfrif! wedi cael effaith addysgol gadarnhaol ar eu hysgol yn ystod Ymarfer y Cyfrifiad yn 2019.
86.3%
Dywedodd 86.3% o athrawon y byddent yn cynnal gweithgareddau Gadewch i ni Gyfrif! eto yn 2021.
90.0%
Roedd 90.0% o rieni o'r farn bod Gadewch i ni Gyfrif! wedi cael effaith addysgol gadarnhaol ar ysgol eu plentyn a dywedodd 93.3% fod eu plentyn wedi mwynhau cymryd rhan.

Cymerwch ran yn y Diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! a eich ysgol gallai ennill gwerth £1,000 o gyfarpar.
Yn ogystal, bydd yr ysgol fuddugol yn cyhoeddi poblogaeth newydd Cymru a Lloegr yng Nghyfrifiad 2021 am y tro cyntaf.
- Gall ysgolion ddewis unrhyw ddiwrnod cyn Diwrnod y Cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth 2021 i gynnal eu gweithgareddau cyfrif.
- Ar y Diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! bydd y plant mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn cyfrif pethau, efallai ar daith gerdded yn yr ardal leol. Bydd ysgolion yn cyfrif ac yn casglu data ar unrhyw bwnc sydd o bwys iddynt.
- Gyda’r wybodaeth a gaiff ei chasglu o’r gweithgaredd cyfrif, bydd y disgyblion wedyn yn creu arddangosiadau lliwgar am y cyfrifiad i’w rhoi ar y wal, gan gynnwys siartiau a graffiau.